Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Hydref 2017
Amser:
08.30 -
08.52
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 25 Hydref 2017 -
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil Iechyd y Cyhoedd (Pris Isaf am Alcohol) (Cymru) i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ymgynghori ar amserlen ar gyfer Cyfnod 1 a Chyfnod 2.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal adolygiadau o Gwestiynau Llafar y Cynulliad a chanllawiau ar gynnal trafodion y Cynulliad fel rhan o'i raglen waith weithdrefnol, yn ychwanegol at y deg adolygiad arall a oedd ar y gweill a nodwyd eisoes.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y materion a godwyd yn y papur ond ni allent gytuno ar unrhyw benderfyniadau.
O ran dyrannu Cadeiryddion, dywedodd y Llywydd nad yw'r sefyllfa bresennol yn cydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog, a bod yn rhaid ei datrys. Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes roi mwy o ystyriaeth i sut y gellid gwneud hyn mewn modd sy'n cydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog, a byddai'n rhoi'r papur ar Agenda'r wythnos nesaf.
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur. Nododd y Llywydd y byddai'r Cadeirydd yn sicrhau bod cymaint o Aelodau Cynulliad â phosibl yn cael eu galw, ac y byddai'r eitem yn debygol o gymryd mwy o amser na'r hyn oed wedi'i neilltuo. Cytunodd Arweinydd y Tŷ i newid yr amser a neilltuwyd i'r eitem i 90 munud.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyrau.